Wrth iddi amlinellu ei chamau nesaf ar gyfer ei chynllun Brexit yn y Senedd heddiw (dydd Llun, Ionawr 21),  mae Theresa May wedi cydnabod bod yna bryderon o hyd ynglŷn â’r ffin yng Ngogledd Iwerddon.

Wrth annerch Aelodau Seneddol dywedodd y byddai’n cynnal trafodaethau pellach yr wythnos hon gyda’i chydweithwyr, gan gynnwys y DUP, “i ystyried sut gallwn gwrdd â’n hymrwymiadau i bobl Gogledd Iwerddon ac Iwerddon mewn ffordd a fydd yn sicrhau cefnogaeth sylweddol Tŷ’r Cyffredin.”

Fe fydd hi wedyn yn dychwelyd at yr Undeb Ewropeaidd i drafod y casgliadau, meddai.

Unwaith eto roedd Theresa May wedi wfftio galwadau am Bleidlais y Bobl ar Brexit  gan ddweud bod ganddi “bryderon dwys” am gynnal ail refferendwm gan y byddai’n gosod “cynsail peryglus”.

Sgrapio ffi

Fe gyhoeddodd hefyd y byddai’n sgrapio ffi o £65 i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd eisiau sicrhau’r hawl i fyw yn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit.

Fe fydd cynllun newydd yn cael ei lansio ar 30 Mawrth fel nad oes “rhwystr ariannol i unrhyw un sydd eisiau aros,” meddai.

Ychwanegodd Theresa May y byddai’r Llywodraeth yn rhoi rhagor o wybodaeth am y trafodaethau i ASau y tu ôl i ddrysau caeedig er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth ddiweddara ond nad yw’r trafodaethau yn cael eu tanseilio drwy ryddhau gwybodaeth yn gyhoeddus.

Mae hi hefyd wedi amlinellu ei chynlluniau gynnwys arweinwyr y llywodraethau datganoledig yn y trafodaethau. Dywedodd ei bod yn gobeithio cwrdd â Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford a  Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yr wythnos hon.

Ond mae arweinydd y Blaid Lafur wedi wfftio ei haddewid i fod yn “fwy hyblyg” gan ddweud nad oes “unrhyw beth wedi newid.”