Mae pumed dyn wedi cael ei arestio gan yr heddlu sy’n ymchwilio i fom a ffrwydrodd mewn car tu allan i lys yn ninas Derry, Gogledd Iwerddon.

Cafodd y dyn 50 oed ei gadw yn y ddalfa o dan y Ddeddf Frawychiaeth.

Mae’r pedwar dyn arall gafodd eu harestio ddoe (Dydd Sul, Ionawr 20) yn parhau i fod yn y ddalfa heddiw (Dydd Llun, Ionawr 21).

Grŵp gweriniaethol sy’n cael ei feio am y ffrwydrad yn y ddinas.

Roedd y dyn diweddaraf i gael ei arestio mewn cysylltiad â’r bomio wedi cael ei arestio gan yr heddlu ddydd Mawrth diwethaf (Ionawr 15), ble cafodd ei holi am ei ran mewn lladrad arfog yn y ddinas.

Yn y cyfamser mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddau gerbyd gael eu dwyn yn ardal Creggan yn Derry heddiw (dydd Llun, Ionawr 21).

Yn y digwyddiad cyntaf, roedd adroddiadau bod dynion wedi dwyn fan Transit cyn taflu gwrthrych yn y cefn a ffoi.

Ychydig yn ddiweddarach, derbyniodd yr heddlu alwad ar ôl i bedwar dyn yn gwisgo mygydau – ac un gyda gwn – ddwyn car arall.

Yn ôl yr heddlu, cafodd y ddau wnaeth ddwyn y fan eu gorchymyn i yrru’r cerbyd i safle arbennig a’i adael yno.

Mae’r ddau ddigwyddiad wedi arwain at rybuddion diogelwch sylweddol, gyda thrigolion cyfagos yn gorfod gadael eu cartrefi ac arbenigwyr bomiau’r Fyddin yn cael eu galw.