Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gosod sancsiynau ar y Rwsiaid sy’n cael eu cyhuddo o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad nwy nerfol yn Salisbury y llynedd.

Mae gweinidogion tramor Ewrop wedi cyflwyno gwaharddiadau teithio yn erbyn cyfanswm o naw o bobol, yn ogystal â rhewi eu hasedau.

Mae sancsiynau hefyd wedi’u cyflwyno yn erbyn Canolfan Astudiaethau Gwyddonol ac Ymchwil Syria, ac mae gan bump o’r bobol sydd wedi’u targedu gysylltiad â gweithgarwch y ganolfan honno.

Mae’r pedwar person o Rwsia sydd ar y rhestr yn cynnwys y ddau ddyn a gafodd eu cyhuddo o osod y nwy nerfol, Novichok, yn Salisbury fis Mawrth y llynedd, a hynny o dan orchmynion honedig pennaeth a dirprwy bennaeth y GRU – uned gwybodaeth filwrol Rwsia.

Cafodd y ddau ddyn – a ddefnyddiodd yr enwau Alexander Petrov a Ruslan Boshirov – eu dal ar gamerâu CCTV yn Salisbury ddiwrnod cyn yr ymosodiad ar Fawrth 4.

Bu’r cyn-ysbïwr, Sergei Skripal, 66, a’i ferch, Yulia, mewn cyflwr difrifol wael yn yr ysbyty am wythnosau yn dilyn y digwyddiad.