Fe fydd Theresa May yn amlinellu ei chynlluniau heddiw (dydd Llun, 21 Ionawr) i sicrhau bod ei chynllun Brexit yn cael cefnogaeth y Senedd.

Yn dilyn y bleidlais wythnos ddiwethaf pan gafodd ei chynllun ei wrthod gan fwyafrif sylweddol o Aelodau Seneddol, mae disgwyl iddi gyhoeddi heddiw sut mae hi’n bwriadu bwrw mlaen a’r cynllun.

Mae ffynonellau o fewn y Llywodraeth wedi dweud  y bydd hi’n cynnal trafodaethau pellach efo ASau, yn ogystal ag arweinwyr busnes ac undebau llafur trwy gydol yr wythnos mewn ymgais i benderfynu ar y ffordd ymlaen cyn y bleidlais ar 29 Ionawr.

Ond mae’n annhebyg ei bod hi’n barod i gynnig consesiynau a fydd yn apelio at ASau’r gwrthbleidiau.

Yn ôl adroddiadau mae hi’n paratoi i bwyso am newidiadau i’r “backstop” yng Ngogledd Iwerddon yn y gobaith o gael cefnogaeth aelodau ei phlaid sydd o blaid Brexit a’r DUP, a oedd wedi pleidleisio yn erbyn ei chynllun gwreiddiol.

Mae un grŵp sy’n cynnwys yr AS Llafur Yvette Cooper a’r cyn-weinidog Ceidwadol Nick Boles eisiau cael amser ychwanegol ar gyfer bil i ohirio Erthygl 50 os nad oes cytundeb gyda Brwsel erbyn diwedd mis Chwefror.

Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi beirniadu’r Prif Weinidog am wrthod diystyru Brexit heb gytundeb.