Mae fideo gan Sky News yn awgrymu bod cwch yn cludo ffoaduriaid wedi cael ei dynnu i’r lan yn Dover.

Mae lle i gredu bod wyth o bobol yn y cwch, a gafodd ei weld gan bysgotwr fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 20).

Maen nhw bellach yng ngofal yr awdurdodau.

Argyfwng ffoaduriaid

Fe fu cynnydd sylweddol yn ddiweddar yn nifer y ffoaduriaid sy’n ceisio cyrraedd y lan yn Ewrop.

Fe fu’n rhaid i Sajid Javid, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, gwtogi ei wyliau fis diwethaf er mwyn ymdrin â’r hyn sy’n cael ei ystyried bellach yn argyfwng ar arfordir de Lloegr.

Dydy’r Swyddfa Gartref ddim wedi gwneud sylw am y digwyddiad diweddaraf.