Mae’r heddlu’n dweud bod ffrwydrad yn Derry neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 19) yn “ddifeddwl dros ben”.

Roedd yr heddlu’n archwilio car “amheus” pan dderbynion nhw wybodaeth fod dyfais ffrwydrol gerllaw.

Cafodd cannoedd o bobol, gan gynnwys 150 oedd yn aros mewn gwesty, eu symud o’r ardal, ynghyd â rhagor o bobol mewn neuadd a phlant mewn clwb ieuenctid mewn eglwys.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad am oddeutu 8.10yh, ac mae’r heddlu’n dweud bod y cerbyd wedi’i ddwyn oddi ar yrrwr oedd yn cludo nwyddau i’r ardal.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod yn “ddiolchgar” na chafodd unrhyw un ei ladd.

Mae dau o bobol yn eu 20au wedi’u harestio, ac mae’r heddlu’n ymchwilio i’w cysylltiadau â’r IRA Newydd.

‘Dim ystyriaeth o’r gymuned’

“Mae’r bobol oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad hwn wedi dangos fod ganddyn nhw ddim ystyriaeth o’r gymuned na busnesau lleol,” meddai’r heddlu.

“Does ganddyn nhw fawr o ots am y difrod i’r ardal a’r anghyfleustra maen nhw wedi ei achosi.”

Mae nifer o wasanaethau eglwysig wedi’u canslo yn sgil y digwyddiad.