Mae adroddiadau bod Nigel Farage, cyn-arweinydd UKIP, yn bwriadu sefydlu plaid pro-Brexit newydd.

Mae cyn-ymgyrchwyr UKIP wedi gofyn iddo ymuno â’r blaid newydd sydd wedi gwneud cais i gofrestru’r blaid newydd gyda’r Comisiwn Etholiadol.

Mae e eisoes wedi dweud na fyddai’n “eistedd yn ôl a gwneud dim” pe na bai’r broses Brexit yn mynd rhagddo ar Fawrth 29.

Fe gyhoeddodd ym mis Rhagfyr ei fod e’n gadael UKIP am ei fod e’n anghyfforddus yn sgil cyfeiriad y blaid yn dilyn penodi Tommy Robinson, arweinydd yr EDL, yn ymgynghorydd personol yr arweinydd Gerard Batten.

‘Angen sefyll i fyny a brwydro’

“Os yw’r Llywodraeth yn cefnu ar eu haddewid ac yn bradychu’r miliynau o bobol a bleidleisiodd o blaid Brexit, yna mae angen i ni fod yn barod i sefyll i fyny a brwydro drosto,” meddai wrth y Sun.

“Dw i’n barod ar gyfer ymestyn neu ddileu Erthygl 50 a phe bai hynny’n digwydd, bydda i’n camu’n ôl ar y llwyfan.”

Mae’n dweud ei fod yn disgwyl i bobol “heidio i blaid pro-Brexit” pe bai Theresa May, prif weinidog Prydain, yn ceisio gohirio’r broses.