Gallai John Bercow, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, aros yn ei swydd y tu hwnt i’r haf.

Daw’r adroddiadau yn dilyn amheuon y byddai’n rhoi’r gorau i’r swydd yn dilyn amheuon nad yw’n ddi-duedd oherwydd ei sylwadau am Brexit yn y gorffennol.

Roedd gweinidogion yn bygwth peidio â rhoi sedd iddo yn Nhŷ’r Arglwyddi yn sgil yr helynt, a’i wrthwynebiad honedig i gynlluniau Llywodraeth Prydain yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae rhai wedi ei gyhuddo o “dwyll yn erbyn canrifoedd o weithdrefnau”, ac na ddylid ei wobrwyo.

Erbyn hyn, mae awgrym y gallai aros yn y swydd hyd at 2022, meddai’r Observer.