Mae ofnau y gallai aelodau meinciau cefn San Steffan geisio rheoli proses Brexit drwy gyflwyno gwelliannau i’r Mesur Ymadael.

Mae’r Sunday Times yn adrodd bod un criw o dan arweiniad y cyn-weinidog Torïadd Nick Boles ac Yvette Cooper o’r Blaid Lafur yn ceisio atal Brexit heb gytundeb, tra bod criw arall o dan arweiniad Dominic Grieve, y cyn-Dwrnai Cyffredinol am roi stop ar weithredu Erthygl 50 yn llwyr.

Mae’r papur newydd yn dweud eu bod wedi gweld negeseuon ebost rhwng Dominic Grieve a chlerc yn trafod sut fyddai oedi’r broses yn bosibl.

Dydi llefarydd ddim wedi gwneud sylw am gynnwys yr ebost, ond mae’n dweud ei fod yn “ddigon cyffredin” fod cyngor yn cael ei roi gan glerc i aelodau seneddol “yn ddi-duedd”.

Mae ymgais y ddau griw yn “bryderus iawn”, yn ôl Downing Street, sy’n pwysleisio’r angen i aelodau seneddol oedd o blaid Brexit gefnogi cynlluniau Theresa May.

Datganiad Theresa May

Mae disgwyl i Theresa May annerch y Senedd yfory (dydd Llun, Ionawr 21), gan amlinellu sut mae hi’n bwriadu bwrw ymlaen gyda’i chynlluniau ar ôl colli pleidlais allweddol yr wythnos ddiwethaf.

Bydd hi’n cyflwyno cynnig ‘niwtral’, ac mae disgwyl i Aelodau Seneddol gyflwyno gwelliannau cyn cynnal pleidlais bellach ar Ionawr 29.

Mae Liam Fox, Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol San Steffan, yn rhybuddio y gallai methu â gweithredu ar sail canlyniad refferendwm 2016 achosi “tswnami” gwleidyddol.

Mae hefyd wedi beirniadu’r rhai sy’n galw am wfftio’r posibilrwydd o gael Brexit heb gytundeb.

“Byddai methu â chyflwyno Brexit yn cynhyrchu bwlch ceg agored rhwng y Senedd a’r bobol, a rhwyg yn ein system wleidyddol â chanlyniadau nad oes modd gwybod amdanyn nhw,” meddai yn y Sunday Telegraph.

“Gallai ymateb cynulleidfa Question Time ddod yn tswnami gwleidyddol. Mae’n bryd i Aelodau Seneddol gyflwyno ar yr addewidion wnaethon nhw. Mae’n fater o anrhydedd ac yn fater o ddyletswydd.”