Mae dwy bennod o raglen sgwrsio newydd yn cael eu lansio mewn ymgais i hybu’r defnydd o’r iaith Gernyweg.
Criw o wirfoddolwyr sy’n gyfrifol am y rhaglenni ‘Jaqi ha Jerry’, sydd yn cael eu ffilmio o flaen cynulleidfa fyw yn ystod Penwythnos yr Iaith Gernyweg a digwyddiad Lowender Peran, sy’n dathlu nawddsant Cernyw.
Maen nhw’n dweud mai diben y rhaglenni yw dangos beth sy’n bosibl os yw rhywun yn medru’r iaith.
Bydd y rhaglenni ar gael i’w gwylio ar YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol.
This exciting project aims to expand people’s ideas about what is possible with Kernewek.