Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drywanu’r llanc 14 oed, Jaden Moodie i farwolaeth yn nwyrain Llundain.

Fe gafodd ei arestio yn Wembley mewn perthynas â’r ymosodiad yn Leyton am 6.30yh ar Ionawr 8.

Cafodd Jaden Moodie ei drywanu ar ôl cael ei wthio oddi ar feic moped gan bump o ddynion mewn Mercedes B class, meddai’r heddlu.

Fe wnaeth tri o’r dynion ei drywanu cyn ffoi, ac mae’r heddlu’n chwilio amdanyn nhw ac yn apelio am wybodaeth.