Mae Keir Starmer, llefarydd Brexit Llafur, yn galw am “ddadl agored” er mwyn symud ymlaen â’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe ddaw wrth iddo rybuddio nad oes yna “lwybrau hawdd” allan o’r sefyllfa ar ôl i Theresa May, prif weinidog Prydain, golli’r bleidlais ar ôl cyflwyno’i chytundeb Brexit.

Fe fydd yn dweud wrth Gymdeithas Fabian yn Llundain heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 19) fod rhaid i’r Senedd wneud “penderfyniadau anodd” er mwyn rhoi terfyn ar yr ansicrwydd.

“Mae’n amser cynnal trafodaeth agored ynghylch sut rydyn ni am dorri’r anghytundeb llwyr.

“Does yna ddim llwybrau hawdd allan o’r llanast y mae’r Llywodraeth wedi’i gredu o safbwynt Brexit.

“Bydd angen i’r Senedd wneud penderfyniadau anodd.

“Mae’n bryd cynnal dadl onest i gael atebion credadwy.”

Mae Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, yn gwrthod cyfarfod â Theresa May oni bai ei bod hi’n fodlon rhoi’r posibilrwydd o ddim cytundeb i’r naill ochr, gan ddadlau bod rhaid ystyried undeb tollau er mwyn sicrhau cefnogaeth y Senedd.

Mae hefyd yn dweud mewn llythyr ati ei fod yn anhapus ei bod hi wedi wfftio’r posibilrwydd o ymestyn Erthygl 50 a chynnal ail refferendwm.

‘Chwarae am amser’

“Beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl o’r materion hynny, mae’n atgyfnerthu’r safbwynt nad yw’r rhain yn drafodaethau go iawn, ond yn rhai sydd wedi’u cynllunio er mwyn chwarae am amser a rhoi’r argraff o estyn allan, tra’n cadw’n gadarn at eich cytundeb eich hun a gafodd ei wrthod mor bendant,” meddai Jeremy Corbyn yn ei lythyr.

Daw’r llythyr wrth i’r Financial Times adrodd fod aelodau’r Cabinet sydd o blaid Brexit yn rhybuddio Theresa May fod perygl o hollti’r Blaid Geidwadol os yw hi’n ildio i’r alwad ynghylch yr undeb tollau.

“Nid diffyg cytundeb yw’r canlyniad delfrydol, ond byddai’n dangos anallu pe bai unrhyw lywodraeth gyfrifol yn ei wfftio, ac mae rhesymau da iawn dros hynny,” meddai Andrea Leadsom wrth y Daily Telegraph.

“Os ydyn ni’n wfftio dim cytundeb, yna fe allwn anghofio am yr Undeb Ewropeaidd yn ein cymryd ni o ddifrif. Rydym yn gwanhau ein gallu i drafod.

“Os ydyn ni’n methu â pharatoi, rydym yn paratoi i fethu o safbwynt ein gwlad.”

Mae disgwyl i Theresa May dreulio’r penwythnos yn paratoi ei haraith at ddydd Llun, pan fydd hi’n annerch y Senedd unwaith eto.