Mae tri dyn wedi cael eu carcharu am eu rhan mewn ffrwydrad a laddodd bump o bobol mewn siop yng Nghaerlŷr y llynedd.

Roedd Aram Kurd (34), Hawkar Hassan (33) ac Arkan Ali (38) wedi ffrwydro’r archfarchnad Bwyleg yn Heol Hinckley a’r fflat uwchlaw, mewn ymgais i gasglu gwerth £300,000 o yswiriant.

Mae’n debyg bod y dynion wedi gadael i weithwraig yn y siop, Viktorija Ijevleva, 22, farw yn yr adeilad am ei bod hi’n “gwybod gormod” am y polisi yswiriant a gafodd ei gymryd allan ychydig wythnosau ynghynt.

Bu farw Mary Ragoober, 46, ei dau fab, Shane a Sean, a Leah Beth Reek, 18, sef cariad Shane, yn ystod y ffrwydrad ar Chwefror 25.

Cafodd y tri drwgweithredwr eu cyhuddo o bum achos o ladd ac un achos o gynllwyno twyll ynghyd â Viktorija Ijevleva.

Mae Arkan Ali ac Aram Kurd wedi cael o leiaf 38 mlynedd o garchar, tra bod Hawkar Hassan wedi’i ddedfrydu i 33 mlynedd dan glo.

Cafodd y tri eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerlŷr ddoe (dydd Gwener, Ionawr 18).