Mae Heddlu Norfolk wedi dweud y byddan nhw yn cynnal ymchwiliad i’r ddamwain car gafodd gŵr Brenhines Lloegr.

Roedd y Tywysog Philip  yn gyrru Land Rover pan darodd gar Kia ar ffordd brysur ger stad Sandringham ei wraig.

Yn ôl yr heddlu fe gafodd gyrrwr 28 oed y car Kia a dynes arall 45 oed eu hanafu a’u trin mewn ysbytai, cyn cael eu rhyddhau.

Hefyd yn y Kia roedd babi naw mis oed na chafodd ei anafu.

Yn dilyn y ddamwain mae sawl un wedi cwestiynu doethineb caniatáu i’r Tywysog Philip barhau i yrru ceir, ac yntau yn 97 oed.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ddoe pan dynnodd y Tywysog allan o lôn fach yn ei Land Rover, er mwyn ymuno gyda llif yr A149, a tharo’r car Kia.

Mae Theresa May wedi anfon “neges breifat yn dymuno’r gorau” i’r Tywysog Philip.

Y disgwyl yw y bydd yr heddlu yn holi’r Tywysog, gyrrwr y car Kia ac unrhyw dystion i’r digwyddiad.