Nos Iau (Ionawr 17)( oedd noson oeraf y gaeaf hyd yn hyn, gyda’r tymheredd yn syrthio i -10.7C (12.7F) mewn rhai mannau.

Cafodd yr isafbwynt hwnnw ei gofnodi yn Aboyne, Swydd Aberdeen, gan guro’r record ddiwethaf o -10.5C, a gafodd ei gofnodi ar Ionawr 3 yn Braemar – sydd o fewn yr un sir.

Bu rhybudd melyn am rew a hyd at 3cm o eira ar draws arfordir dwyreiniol Lloegr tan y bore yma, ac mae’r un rhybudd yn dal mewn grym ar gyfer ucheldir Cymru tan un y p’nawn.

Yn ôl arbenigwr yn y Swyddfa Dywydd, mae hyn yn arwydd bod gaeaf bellach wedi cyrraedd “go-iawn”.