Mae Ffrainc, Yr Almaen a’r Iseldiroedd yn barod wedi dechrau ar baratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb.

Y pryder yw y bydd methiant Theresa May i sicrhau bargen wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29, yn eu heffeithio nhw.

Yn Ffrainc, maen nhw wedi gwario 50 miliwn ewro er mwyn cryfhau diogelwch mewn meysydd awyr ac yn Twnnel y Sianel, gan gyflogi cannoedd o swyddogion ychwanegol.

Mae’r Almaen yn trafod sut i ddatrys problemau biwrocrataidd rhwng y ddwy wlad, tra mae’r Iseldiroedd wedi gwneud eithriad arbennig i adael dinasyddion Prydeinig aros yn y wlad dros dro unwaith na fydd ganddyn nhw basport Ewrop.

Byddai Brexit heb gytundeb yn ysgwyd gweddill Ewrop mewn ffyrdd nad oes fawr neb yn eu deall eto.

Mae llywodraethau ar draws y cyfandir bellach yn dechrau paratoi ar gyfer anhrefn.