Mae Ceidwadwyr sydd o blaid ail refferendwm yr Undeb Ewropeaidd wedi lansio ymgyrch ‘Hawl i Bleidlais’.

Daw’r newyddion wrth i ystadegau awgrymu bod y mwyafrif o bleidleiswyr mewn seddi Torïaidd eisiau i’r cyhoedd gael y gair olaf ar Brexit. Ac mae’r rheiny’n cynnwys etholwyr Theresa May a Boris Johnson.

Mae dadansoddiad o bôl ar 6,700 o bleidleiswyr yn awgrymu bod mwyafrif mewn naw allan o ddeg rhanbarth y Ceidwadwyr yn cefnogi Pleidlais y Bobol.

Yn ôl Aelod Seneddol y Ceidwadwyr, Phillip Lee – roedd cefnogaeth newydd i bôl newydd yn cael ei “danamcangyfrif” ac roedd yn “tyfu yn gyflym” ymysg aelodau’r blaid.

Fe adawodd Phillip Lee ei rôl fel gweinidog yn Llywodraeth y prif weinidog, Theresa May, dros Brexit y llynedd. Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan gwmni FocalData i ymgyrch ‘Best for Britain’, sy’n ymgyrchu am ail refferendwm.

Mae’n awgrymu bod mwyafrif mewn 290 o 317 o seddi Torïaidd, sy’n 91.5%, yn cefnogi pleidlais gyhoeddus os na all y Senedd lwyddo ar Brexit. Mae cefnogaeth i bleidlais newydd yn 55% yn 166 o’r seddau hyn a dros 60% mewn 44.

Mae tua 59.5% hefyd yn cefnogi ail refferendwm yn Maidenhead, sef etholaeth Theresa May, ynghyd â 61.4% yn Uxbridge – etholaeth Boris Johnson.