Fe fydd cwmni archfarchnad Asda yn cael gwybod heddiw (dydd Iau, Ionawr 17) a ydyn nhw wedi torri’r gyfraith o ran faint o gyflog y maen nhw wedi bod yn ei dalu i’w staff.

Maen nhw’n herio penderfyniad y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth (EAT) bod swyddi yn siopau Asda yn debyg i’r rhai yng nghanolfannau ddosbarthu’r cwmni – ac felly bod gweithwyr y ddau le yn haeddu’r un cyflogau.

Mae disgwyl i farnwyr yn Llys Apêl Llundain ddod i benderfyniad yn rownd ddiweddaraf yr achos, wedi i giloedd o weithwyr y cwmni – y mwyafrif ohonyn nhw’n ferched – brotestio yn erbyn y cwmni.

Hyd yn oed os yw Asda yn colli’r achos heddiw, fe fydd yn rhaid i weithwyr brofi bod eu swyddi o’r un radd os ydyn nhw am dderbyn yr un cyflogau. Dim ond felly y mae’r gyfraith yn dweud nad oes unrhyw reswm tros wahaniaethu rhwng gweithwyr.

Mewn gwrandawiad ym mis Hydref, fe ddywedodd bargyfreithiwr Asda, Christopher Jeans QC, fod penderfyniad y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth yn un “annymunol”.