Mae hi’n gyfrifoldeb ar San Steffan i ddod o hyd i atebion Brexit y bydd hi’n bosib i Ddulyn a Brwsel eu derbyn, yn ôl Taoiseach Iwerddon.

Mae Leo Varadkar yn dweud y dylai Prydain addasu ychydig ar ei “llinell goch” at faterion Marchnad Sengl ac Undeb Tollau, fel bod yr Undeb Ewropeaidd yn gallu cyfaddawdu rhywfaint hefyd.

“Ddylen ni byth anghofio mai polisi Prydeinig ydi Brexit, a’i fod wedi’i greu yn San Steffan,” meddai Leo Varadkar..

“Gan fod yr ateb wedi cael ei wrthod gan San Steffan, yno y mae’r broblem yn byw, ac yno y dylid ei datrys hi.

“Mae’r cyfrifoldeb ar San Steffan i gynnig atebion y gallan nhw eu cefnogi,” meddai Leo Varadkar wedyn, “ond mae’n rhaid iddyn nhw fod yn atebion y medr yr Undeb Ewropeaidd hefyd eu cefnogi.”