Mae peilot oedd wrth y llyw pan blymiodd awyren i’r ddaear mewn sioe awyr yn Shoreham yn Sussex yn mynd gerbron llys heddiw i wynebu 11 cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol.

Cafodd 11 o ddynion eu lladd pan blymiodd yr awyren Hawker Harris i’r ddaear ger ffordd A27 ar Awst 22, 2015.

Mae Andrew Hill, 54, yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Cefndir

Cafodd y peilot, a gafodd ei hyfforddi gan yr Awyrlu, ei gludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad, ac fe gafodd ei roi mewn coma dros dro.

Y rhai fu farw yn y digwyddiad oedd Maurice Abrahams (76), Dylan Archer (42), Tony Brightwell (53), Matthew Grimstone (23), Matt Jones (24), Graham Mallinson (72), Daniele Polito (23), Mark Reeves (53), Jacob Schilt (23), Richard Smith (26) a Mark Trussler (54).

Mae disgwyl i’r acos yn yr Old Bailey bara hyd at ddeufis.