Mae dynes wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth yn Bradford 18 mlynedd yn ôl.

Fe gafodd Rebecca Hall, 19, mam i dri o blant, ei lladd mewn ymosodiad ciaidd yn y ddinas ym mis Ebrill 2001.

Heddiw (dydd Mercher, Ionawr 16) fe ddaeth datganiad gan Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn cadarnhau eu bod yn dal i ymchwilio i farwolaeth Rebecca Hall, a bod dynes 37 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Gwener, Ionawr 4.

Mae’r ddynes wedi cael ei rhyddhau dan ymchwiliad.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Rebecca Hall, a oedd yn gweithio yn y diwydiant rhyw, ger lôn gul oddi ar Thornton Street, Bradford, ac fe ddychrynwyd y ddinas gan ei marwolaeth.