Mae ditectifs yn Llundain wedi rhyddhau lluniau o ddau ddyn sy’n cael eu hamau o gicio a dyrnu plismon yn ystod protest yng nghanol y ddinas.
Roedd y plismon ar ddyletswydd yn ardal Pall Mall a Waterloo Place Westminster ar Hydref 13 y llynedd, pan ymosododd y dynion arno yn honedig.
Roedd hyn yn ystod ralio gwrth-Islam gan y Democratic Football Lads’ Alliance (DFLA), digwyddiad a gafodd ei drefnu fel gorymdaith dawel, ond a aeth allan o reolaeth wedi i gefnogwyr orfodi eu ffordd trwy rwystrau gan yr heddlu a dechrau cwffio.
Mae Scotland Yard yn dweud fod y ddau ddyn wedi ymosod ar y plismon o’r tu ôl, gan ei ddyrnu a’i gicio, cyn dianc i ganol y dorf.
Chafodd y plismon ddim ei anafu yn y digwyddiad, meddai Scotland Yard wedyn.
Y gred ydi fod y ddau ddyn croenwyn rhwng 40 a 50 oed.