Mae Theresa May a’r Llywodraeth wedi colli’r bleidlais Brexit o fwyafrif anfeth o 230 – y golled fwya’ i lywodraeth yn y cyfnod modern.

Yn  union wedyn fe ddywedodd y Prif Weinidog y byddai’n fodlon rhoi amser i’r Blaid Lafur neu’r pleidiau eraill gynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth ac o fewn munudau roedd yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi cadarnhau y bydden nhw’n gwneud hynny.

Roedd datganiad Theresa May yn cael ei weld yn her uniongyrchol i Lafur – y disgwyl yw y bydd y Prif Weinidog yn ennill pleidlais o’r fath gyda chymorth plaid Unolaethol Gogledd Iwerddon, y DUP – maen nhw wedi addo cefnogi.

Fe fydd y bleidlais yn digwydd fory.

‘Bodlon gwrando’

Fe ddywedodd Theresa May y byddai’n trafod gyda gwrthwynebwyr i weld beth fyddai’n ennyn eu cefnogaeth nhw i gytundeb gadael.

Fe ddywedodd Theresa May y bydden nhw’n gwrando – ond doedd y bleidlais, meddai, yn dweud dim am beth oedd Tŷ’r Cyffredin eisiau.

Y bleidlais

Ar ôl wyth niwrnod o drafod, fe ddaeth canlyniad y bleidlais ychydig wedi hanner awr wedi saith – 202 o blaid cytyundeb Theresa May a 432 yn erbyn.

Roedd rhai wedi sôn y byddai mwyafrif o’r maint hwnnw yn arwain at ymddiswyddiad y Prif Weinidog ond doedd dim arwydd o hynny.

Yn ôl yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, dyma’r gweir fwya’ i Lywodraeth ers yr 1920au.

Mewn gwirionedd dim ond ychydig tros 160 oedd y mwyafrif bryd hynny, yn 1924, pan gafodd llywodraeth Lafur Ramsay Macdonald ei dymchwel.