Fe achosodd uwch arolygydd Heddlu de Swydd Efrog, David Duckenfield, 96 o farwolaethau cefnogwyr Lerpwl o ganlyniad i benderfyniadau “eithriadol o wael” mae’r llys wedi clywed heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 15).

Fe glywodd Llys y Goron Preston ei fod wedi methu â chyflwyno mesurau argyfwng i ryddhau’r cefnogwyr cafodd eu dal yn Leppings Lane, cae Sheffield Wednesday, ar Ebrill 15, 1989.

Mae David Duckenfield, sy’n 74 oed o Bournemouth, yn gwadu cyhuddiadau o esgeulustod. Mae’n wynebu achos yn ei erbyn sy’n ei gyhuddo o ladd 95 o gefnogwyr Lerpwl, gan gynnwys Jon-Paul Gilhooley, a oedd yn ddim ond deg oed.

Dywedodd yr erlynydd, Richard Matthews QC, efallai y bu “cyfres eithriadol o fethiannau ar y cyd â rhai personol” gan lawer – os nad pawb – o’r rhai a fu’n cynllunio a rheoli’r gêm yn erbyn Nottingham Forest.

Ychwanegodd mai David Duckenfield oedd â’r “cyfrifoldeb pennaf” yn rheoli’r rhai a fu farw o ganlyniad i “”weithgaredd hollol ddiniwed o fynd i wylio gêm bêl-droed”.