Mae gwyddonwyr yn dweud y gallan nhw ragweld hyd oes dyn, trwy astudio ei DNA.

Mae tim o ymchwilwyr yn yr Alban wedi cynhyrchu system sgorio sy’n dadansoddi effaith yr amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio ar oed marw unigolyn.

Mae pobol sy’n sgorio ymysg y 10% uchaf, yn gallu disgwyl byw bum mlynedd yn fwy na’r rhai sy’n cael sgôr yn y 10% isaf.

Mae’r arbenigwyr yn Sefydliad Usher, Prifysgol Caeredin wedi bod yn astudio data am genynnau dros 500,000 o bobol, yn ogystal â manylion am hyd oes eu rhieni.

Mae’r gwyddonwyr yn gobeithio symud ymlaen i geisio dod o hyd i sut yn union y mae genynnau yn effeithio y ffordd y mae pobol yn heneiddio. Os oes yna ffasiwn beth â gennyn sy’n gyfrifol am hynny, maen nhw’n gobeithio ei adnabod a’i ddisgrifio.

Mae’r ymchwil diweddara’ yn cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, eLife.