“Fe fyddwn ni’n gadael ar 29 Mawrth” – dyna ddywedodd Theresa May heddiw (dydd Llun, 14 Ionawr) wrth iddi geisio cael cefnogaeth munud olaf i’w chynllun Brexit.

Mae’r Prif Weinidog wedi wfftio’r syniad bod cynlluniau amgen ar gael ac wedi dweud na ddylai Erthygl 50 gael ei ymestyn.

Roedd ’na awgrymiadau y gallai’r Undeb Ewropeaidd ymestyn y cyfnod cyn gadael hyd at yr haf er mwyn rhoi rhagor o amser i’r Deyrnas Unedig ddod i gytundeb ar y trefniadau.

Ond dywedodd Theresa May y byddai’r DU yn parhau i adael yr UE ar Fawrth 29.

Mae hi hefyd yn gwrthod y syniad o gynnal ail refferendwm.

Daw ei sylwadau ddiwrnod cyn y bleidlais dyngedfennol ar ei chynllun Brexit yn y Senedd nos yfory (dydd Mawrth, 15 Ionawr). Mae hi eisoes wedi rhybuddio bod y Senedd yn debygol o rwystro Brexit rhag digwydd yn hytrach na gadael heb gytundeb.

Chwip y Llywodraeth wedi ymddiswyddo

Yn y cyfamser mae Brwsel wedi cyhoeddi llythyr yn rhoi sicrwydd nad ydyn nhw am i’r “backstop” dadleuol yn Iwerddon fod yn barhaol.

Ond mae’n debyg nad yw’r llythyr yn rhoi digon o sicrwydd i leddfu pryderon rhai ASau ac mae chwip y Llywodraeth, Gareth Johnson wedi ymddiswyddo. Dywedodd yr AS Ceidwadol ei bod yn amlwg nad oedd “newid sylweddol” i’r Cytundeb Ymadael.