Roedd Neuadd y Ddinas yn Belffast yn goch ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 12) i nodi dwy flynedd ers dechrau ymgyrch newydd am Ddeddf Iaith Wyddeleg.

Cafodd cynnig ei basio gan Gyngor Dinas Belffast ddiwedd y llynedd, yr ail gynnig, yn dilyn y cyntaf ym mis Mawrth.

Roedd cefnogaeth aml-bleidiol i’r cynigion.

Cafodd y cynigion eu sbarduno gan doriadau yn y gyllideb ar gyfer yr iaith gan y DUP ar ddechrau 2017.

Adeilad coch

“Golau coch arbennig, lliw hawliau dynol, i nodi pen-blwydd y brotest gyhoeddus gyntaf i gefnogi Deddf Iaith Wyddeleg sydd wedi’i threfnu gan An Dream Dearg,” oedd disgrifiad Cyngor Dinas Belffast o’r penderfyniad i oleuo’i adeilad yn goch.

Ac roedd yn gyfle i alw o’r newydd am Ddeddf Iaith Wyddeleg unwaith eto.

“Ddwy flynedd yn ôl ar y dyddiad hwn, fe ddechreuodd gwaith trefnu An Dream Dearg,” meddai’r ymgyrchydd Ciarán Mac Giolla Bhéin yn ei araith.

“Ar y diwrnod hwnnw, roedden ni’n gwrthwynebu’r toriadau Líofa cywilyddus gan y DUP ar drothwy Nadolig 2016.

“Ddwy flynedd yn ddiweddarach ac rydym yn dal i alw am yr hawliau hynny, am y parch ac am gydnabyddiaeth swyddogol trwy’r gyfraith gan y wladwriaeth.

“Mae’r un hawliau hynny wedi’u rhoi i’n cyd-ddyn ar draws yr ynysoedd hyn ac ar draws y byd.”