Mae adroddiadau bod James Goddard, trefnydd y protestiadau festiau melyn, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o aflonyddu ar yr aelod seneddol Anna Soubry y tu allan i San Steffan.

Fe ddigwyddodd wrth iddi gael ei chyfweld yn fyw ar y teledu ddydd Llun (Ionawr 7).

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod dyn yn ei 30au wedi cael ei arestio yng ngorsaf drenau tanddaearol St. James Park ar amheuaeth o drosedd yn groes i’r drefn gyhoeddus.

Mae’n cael ei holi yn y ddalfa yn ninas Llundain.