Mae Guto Harri, cyn-gynorthwyydd i Boris Johnson, wedi sôn am ei “sioc ryfeddol” o ddarganfod bod yr Aelod Seneddol Ceidwadol yn cefnogi Brexit.

Roedd y newyddiadurwr a chyflwynydd o Gaerdydd yn gynorthwyydd ar yr Aelod Seneddol adnabyddus am bedair blynedd rhwng 2008 a 2012.

Bellach mae Boris Johnson, y cyn-Ysgrifennydd Tramor, wedi dod yn brif ffigwr yn yr ymgyrch i dynnu’r Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Guto Harri, roedd yr Aelod Seneddol – Maer Llundain am wyth mlynedd – yn arfer arddel daliadau go wahanol.

“Roedd Boris, pan oeddwn i’n gweithio iddo fe, yn un o’r bobol fwyaf eangfrydig, pro-Ewropeaidd a goddefgar allwn i ei ddychmygu mewn gwleidyddiaeth – yn enwedig, efallai, gwleidyddiaeth geidwadol,” meddai wrth golwg360.

“Wrth baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd [Llundain 2012], roedd e’n clochdar yn ddi-baid ynglŷn â’r cyfoeth i Lundain o gael dros 300 o ieithoedd a chenhedloedd gwahanol, a phobol oedd yn dod yma o fannau eraill o’r byd.

“Roedd e’n gymaint o sioc i mi ag oedd e i’w frodyr, ei chwiorydd a’i dad pan ddywedodd ei fod am adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd e’n sioc ryfeddol.”

Byd yn ei le

Mae Guto Harri yn gyflwynydd ar raglen Byd yn ei le, ac mi fydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu’n fyw o Lundain ar dydd Mawrth (Ionawr 15) – diwrnod y bleidlais ar ddêl Brexit Downing Street.

Mae’n dweud y gallwn ddisgwyl panel â “gwleidyddion diddorol” a “chlwstwr o bobol o wahanol feysydd sydd â barn ddiddorol ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd”

Brexit fydd y pwnc trafod, ac mae’n pwysleisio bod rhaglen yr wythnos nesaf yn un arbennig.

“Fel arfer mae’r rhaglen wedi recordio,” meddai. “Eithriad yw ei gwneud hi’n fyw … Ond, mae pethau mor gyffrous a gyfredol yn San Steffan, mae’n rhaid i ni fynd yn fyw.

“Dw i’n credu bod pawb yn cytuno, ar nos Fawrth nesaf, tua wyth o’r gloch, mai un o’r llefydd mwyaf diddorol a pherthnasol yn y byd i gyd fydd San Steffan.

Y bleidlais

Wrth edrych at y bleidlais, mae Guto Harri yn dyfalu y bydd Theresa May, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn cael ei threchu.

“Fel mae hi ar y funud, os nad oes rhyw newid ysgytwol, mae’r hyn mae Theresa May yn ei gynnig fel y cytundeb i ymadael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i gael ei wrthod o fwyafrif cyfforddus o dros gant,” meddai,

“Felly mae hi’n mynd i gael trechad yn y senedd os nad oes rhywbeth dramatig yn digwydd dros y Sul. Dyw hynny ddim yn amhosib.

O ran ei ddaliadau personol ar y mater, mae Guto Harri yn galw Brexit yn “syniad gwallgof fydd yn gwneud difrod ofnadwy i wledydd Prydain, ac i Gymru yn enwedig”.

Mae’n ategu bod y “syniad o roi cyfle i’r bobol ailfeddwl yn un deniadol dros ben”.

Gallwch wylio Byd yn ei le ar S4C am 9.30 yr hwyr, dydd Mawrth (Ionawr 15).