Mae un o weinidogion San Steffan yn galw am ddileu’r ddedfryd o chwe mis o garchar am y rhan fwyaf o droseddau er mwyn lleihau’r pwysau ar garchardai.

Gallai hyd at 30,000 o droseddwyr osgoi carchar fel rhan o gynlluniau Rory Stewart, y Gweinidog Carchardai. Mae’r rhain yn cynnwys lladron tai a siopau.

Ond fyddai’r cynlluniau ddim yn cynnwys troseddwyr rhyw neu’r rhai sy’n euog o ymosodiadau difrifol, meddai’r Daily Telegraph.

Dywed Rory Stewart mai ei fwriad yw sicrhau bod dedfrydau’n “ddigon hir i’ch niweidio, ond ddim yn ddigon hir i’ch gwella chi’n llwyr”.

Dywed y byddai’r gymuned yn fwy diogel o roi “dedfryd gymunedol” i rai troseddwyr, ac y byddai’n lleihau’r pwysau ar garchardai.

Mae Peter Dawson, cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai, yn croesawu’r cynlluniau.

Cefndir

Mae nifer y carcharorion wedi dyblu o 40,000 i 80,000 ers dechrau’r 1990au, yn ôl ystadegau swyddogol.

Cafodd mwy na hanner yr 86,275 o garcharorion yn 2017 ddedfryd o hyd at chwe mis.

Yn ôl ymchwil sydd wedi’i ddyfynnu gan Rory Stewart, mae troseddwyr sy’n derbyn dedfrydau byrion yn fwy tebygol o droseddu eto na’r rhai sy’n derbyn dedfrydau cymunedol.

Ac mae ymchwil yn dangos bod cyflwyno cynlluniau tebyg yn yr Alban wedi lleihau nifer y troseddau’n sylweddol. Y bwriad bellach yw ymestyn y cynllun i ddedfrydau o hyd at flwyddyn.

Dywed llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad oes yna “unrhyw gasgliadau ar hyn o bryd”, a bod y gwaith ymchwil yn mynd rhagddo.