Mae gweinidog yn y Cabinet wedi dweud ei bod wedi’i “hymrwymo” i sicrhau na fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Yn ystod cyfwelid gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4 fe wrthododd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Amber Rudd, ddweud a fyddai hi’n parhau yn aelod o’r Llywodraeth petai’n penderfynu ar Brexit heb gytundeb.

Dywedodd Amber Rudd nad oedd hi’n credu byddai Brexit heb gytundeb yn “beth da i’r wlad ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n osgoi hynny.”

Daeth y cyfweliad wrth i Aelodau Seneddol baratoi ar gyfer trydydd diwrnod o drafod yn Nhŷ’r Cyffredin cyn y bleidlais dyngedfennol ar gynllun Theresa May ddydd Mawrth nesaf. Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid yn dechrau’r drafodaeth ac mae disgwyl i’r effaith ar fewfudo hawlio’r sylw.

Cafodd Theresa May hwb ddydd Iau wrth i ddau aelod Ceidwadol o’r meinciau cefn George Freeman, a Trudy Harrison awgrymu y byddan nhw’n cefnogi ei chynllun.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi gwneud ymdrech i apelio ar y Blaid Lafur a’r undebau mewn ymdrech funud olaf i achub y bleidlais.