Mae Theresa May yn ‘ystyried’ cefnogi galwadau gan Lafur i amddiffyn hawliau gweithwyr wedi Brexit.

Daw’r cam hwn wrth i Lywodraeth Prydain geisio ennill cefnogaeth i gynllun Brexit y Prif Weinidog, gyda disgwyl i’r bleidlais fawr arno gael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf (Ionawr 15).

Fe fu rhaid i’r Llywodraeth ildio yn Nhŷ’r Cyffredin unwaith yn rhagor ddoe (Ionawr 9), ar ôl i Aelodau Seneddol fynnu bod rhaid i Theresa May gyflwyno ‘Cynllun B’ ar Brexit gerbron y Senedd os bydd ei chytundeb yn methu â chael ei gymeradwyo.

Erbyn hyn, mae ffynonellau’r Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw’n ystyried cefnogi cynnig gan Aelodau Seneddol Llafur a fydd yn sicrhau bod rhai o safonau’r Undeb Ewropeaidd yn cael eu cadw wedi Brexit.

Mae’r safonau hynny’n ymwneud â chyflogau ac amodau gwaith, iechyd a diogelwch, a’r amgylchedd.

Jeremy Corbyn – ‘angen etholiad’

Yn y cyfamser, mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ddweud mewn araith yn Swydd Efrog heddiw mai etholiad cyffredinol yw’r unig ddewis “ymarferol a democratiaid” er mwyn symud pethau ymlaen yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Os nad yw’r Llywodraeth yn gallu cymeradwyo ei deddfwriaeth bwysicaf, yna mae’n rhaid cael etholiad cyffredinol cyn gynted â phosib,” meddai.

“I dorri’r diffyg symud [yn Nhŷ’r Cyffredin], mae etholiad cyffredinol nid yn unig yn ddewis ymarferol, ond hwnnw yw’r dewis mwyaf democrataidd hefyd.

“Fe fyddai’n rhoi mandad newydd i’r blaid fuddugol i drafod bargen well i wledydd Prydain ac i sicrhau cefnogaeth ar ei chyfer yn y Senedd a ledled y wlad.”