Mae siopau Debenhams wedi cyhoeddi cwymp mewn gwerthiant dros gyfnod y Nadolig, ond maen nhw’n dal yn obeithiol o ran gwneud elw am y flwyddyn.

Yn ôl ffigyrau, fe welodd y cwmni ostyngiad o 3.6% mewn gweithiant yng ngwledydd Prydain yn y chwe wythnos yn arwain at Ionawr 5, 2019.

Ond fe gafwyd cynnydd o 6% mewn gwerthiant nwyddau dros y we, ac yn ôl prif weithredwr Debenhams, Sergio Bucher, mae’r ffigyrau ar y cyfan gyda’r “canlyniad gorau posib” ar gyfer y cwmni mewn cyfnod anodd.

Fis Hydref y llynedd, fe gyhoeddodd Debenhams y byddan nhw’n cau hyd at 50 o siopau yng ngwledydd Prydain dros y pum mlynedd nesaf, ac y gallai 4,000 o swyddi fynd.

Ers hynny, mae’r cwmni wedi cychwyn ar gynllun strategol newydd, sy’n cynnwys ailwampio dyluniad rhai o’i siopau.

Maen nhw’n dweud bod llawer o’r siopau sydd â dyluniad newydd wedi perfformio’n well na’r hen rai, gyda’r gwerthiant gorau yn Stevenage, Swydd Hertford.