Mae dyn wedi’i arestio wedi i bobol ddianc o gefn lori a gafodd ei stopio gan yr heddlu ar draffordd yr M6.

Fe gafodd y lôn ei chau i’r ddau gyfeiriad rhwng cyffyrdd 15 ac 16 yn Swydd Stafford brynhawn ddoe (dydd Mercher, Ionawr 9).

Roedd cefnogwyr Burton Albion, a oedd ar eu ffordd i gêm gyn-derfynol Cwpan Carabao yn erbyn Manchester City ymysg y rheiny a gafodd eu dal yn y traffig.

Mae Heddlu Swydd Stafford yn dweud fod plismyn wedi stopio’r cerbyd ar yr M6, cyn i “nifer o bobol” ysgwyd cefn y lori.