Mae canolfan dibyniaeth The Priory yn Llundain yn wynebu dirwyon o filiynau o bunnoedd am beidio â chydymffurfio â chyfreithiau iechyd a diogelach, wedi i ferch 14 oed â hanes o geisio cyflawni hunanladdiad farw tra dan eu gofal.

Mae ymchwiliad troseddol wedi’i sefydlu gan y Gweithgor Iechyd a Diogelach wedi marwolaeth Amy El-Keria, a gafodd ei thrin yn ysbyty seiciatryddol Ticehurst House yn 2012.

Mae’r Priory, sy’n rhedeg Ticehurst House, wedi pledio’n euog i dorri rheolau iechyd a diogelwch trwy fethu â chydymffufio â’r cyfrifoldeb o wneud yn siŵr nad yw cleientiaid yn agored i unrhyw risgiau.