Mae’r cwmnïau ynni mawr yn cynnig prisiau o dan y cap pris newydd, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl arolwg gan y darparwr ynni gwyrdd, Bulb, mae darparwyr mwyaf gwledydd Pyrdain – British Gas, EDF Energy, E.ON, NPower, Scottish Power a SSE – wedi cadw eu tariffau £4 o dan y cap pris.

Fe osodwyd cap pris o £1,137 y flwyddyn i’r cwsmer arferol sy’n talu gyda cherdyn debyd ar Ionawr 1.

Cafodd hwn ei gyflwyno er mwyn gwarchod y gost ar gyfer 11 miliwn o gwsmeriaid, yn ôl Ofgem.