Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i dacsi yrru ar hyd traciau rheilffordd, ac i’r gyrrwr a’r teithiwr osgoi cael eu taro gan drên ar y trac.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad a, 7.15yh nos Lun (Ionawr 7) ger Hexham yn Northumberland, wrth i gar fynd benben â thrên ar y lein rhwng Carlisle a Newcastle.

Mae Heddlu Northumbria wedi trydar neges a lluniau o safle’r ddamwain, yn dangos tacsi du wedi wasgu o dan tu blaen y trên.

“Yn lwcus iawn, chafodd neb ei anafu,” meddai’r llu.