Mae ymchwil newydd yn dangos faint yn union o drafferth y mae rhieni sydd â babis yn ei gael i gael cwsg pob nos.

Mae tri o bob deg (30%) sydd â babi o dan 18 mis oed yn dweud, ar gyfartaledd, eu bod yn cysgu dim ond tair a phedair awr bob nos.

Yn ol yr ymchwil, a gynhaliwyd gan Owlet Care, mae dau o bob pump (37%) yn poeni am gyflwr anadlu eu plant yn ystod y nos.

Fe all hyn gael effaith ddrwg ar berthynas rhieni mae’n ymddangos, gyda 59% o rieni gyda babis o dan 18 mis yn cyfaddef bod diffyg cwsg yn arwain at fwy o ffraeo.

Dangosodd yr ymchwil hefyd, i 74%, bod cwsg gwael yn ganlyniad i’w babi yn crio ac yn deffro yn ystod y nos.

Beth mae’r ymchwil yn ei adlewyrchu ar y cyfan yw sut mae diffyg cwsg yn gallu cael effaith estynedig ar agweddau eraill o’n bywydau?

Fe all technoleg fodern helpu i daclo’r problemau hyn – gyda 64% o rieni gyda phlant rhwng 7-18 yn cytuno bod y dechnoleg gwrando a gwylio babis yn gwneud eu profiadau fel rhieni yn llawer haws.