Mae dros dri chwarter oedolion gwledydd Prydain yn dweud mai’r tywydd ydi’r rheswm nad ydyn nhw’n mentro allan o’u tai.

Yn ôl ymchwil gan gwmni egni E.ON mae mwy na 77% o oedolion wedi gadael i dymheredd isel, glaw, censyllg, eira neu niwl fod yn rhwystr rhag mynd allan i’r awyr agored.

Mae dros 56% o’r rhain wedi penderfynu peidio mynd i gerdded a 25% i redeg o ganlyniad.

I 85% o bobol ifanc rhwng 18-24 oed, mae’r tywydd wedi gwneud iddyn nhw beidio â gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored.

Mae cenlyniadau The Great Unproductive Winter hefyd yn dangos bod 56% o’r rheiny gafodd eu holi yn teimlo’n euog am dreulio’r rhan fwyaf o’u hamser dan do.

Er hynny, mae’r mwyafrif o bobol, 68%, yn hoffi bod yn gynhyrchiol, dim ots beth yw’r tywydd.