Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio tad, oedd yn teithio ar drên gyda’i fab, wedi ymddangos yn y llys.
Honnir bod Darren Shane Pencille, 35, wedi trywannu Lee Pomeroy, 51 oed, i farwolaethar drênoedd yn teithio rhwng Guildford a Llundain dydd Gwener.
Fe ymddangosodd Darren Pencille gerbron Llys Ynadon Staines bore ma wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac o fod ag arf yn ei feddiant.
Yn ddiweddarach, fe fu gerbron Llys y Goron Guildford pnawn dydd Llun (7 Ionawr) a chafodd ei gadw yn y ddalfa
Clywodd y llys bod Lee Pomeroy, oedd yn byw yn Guildford ac yn berchen cwmni technoleg gwybodaeth, wedi cael ei drywanu naw gwaith o flaen ei fab 14 oed. Yn dilyn ymchwiliad, cafodd dau o bobl eu harestio fore dydd Sadwrn mewn fflat yn Farnham.
Mae Chelsea Mitchell, 27, partner Darren Pencille, hefyd wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gynorthwyo troseddwr.
Mae hi wedi’i chyhuddo o helpu’r llofrudd honedig i adael y safle a newid ei olwg yn dilyn y digwyddiad ar 4 Ionawr.
Cafodd ei chadw yn y ddalfa ac fe fu hi gerbron Llys y Goron Guildford ynghyd a Darren Pencille ddydd Llun.