Mae cwmni awyrennau Ryanair dan y lach unwaith eto, ar ôl i daith o Lundain i Thessaloniki oedd i fod i gymryd tair awr, gymryd 24 awr.

Cafodd y daith rhwng Stansted a’r ynys Roegaidd ei dargyfeirio i Rwmania oherwydd niwl trwchus.

Gwrthododd y teithwyr fynd ar bws yn hytrach nag awyren ar gyfer taith a fyddai’n cymryd wyth awr, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw aros am awyren arall yn Rwmania.

Cyrhaeddon nhw’r ynys 24 awr yn ddiweddarach.

‘Y cwmni gwaethaf’

Daw’r newyddion am y daith hunllefus ar ôl i arolwg ddweud mai Ryanair yw’r cwmni awyrennau gwaethaf yn ôl teithwyr yng ngwledydd Prydain.

Dyma’r chweched flwyddyn yn olynol iddyn nhw ddod i frig yr arolwg.

Dywedodd 70% o’r 7,901 o bobol oedd wedi ymateb i’r arolwg eu bod nhw’n osgoi’r cwmni.

Yn ystod 2018, mi wnaeth Ryanair ennyn beirniadaeth am sawl cam, gan gynnwys eu penderfyniad i godi tâl ar deithwyr â siwtcesys bychain ag olwynion arnyn nhw.

Ymateb Ryanair

Mae llefarydd ar ran Ryanair wedi ymateb i’r arolwg trwy ddweud nad oedd yr ymchwil yn ystyried prisiau teithiau – “y ffactor pwysicaf i deithwyr y Deyrnas Unedig”, meddai.

Ar gyfartaledd mae teithiau Ryanair yn costio £35, sydd “lawer is na phrisiau uchel y cwmnïau awyrennau sy’n cael eu hargymell gan Which?”, meddai wedyn.