Mae cwmni siocled Cadbury yn cynnig hyd at £10,000 i bwy bynnag sy’n dod o hyd i Creme Eggs gwyn eleni.

Ar drothwy’r Pasg, dywed y cwmni y bydd yr wyau arbennig ar gael mewn siopau ac ar-lein wedi’u cuddio mewn pecyn Creme Egg arferol.

Fe all y prynwyr lwcus ennill rhwng £50 a £10,000 ar ôl eu canfod, meddai’r cwmni ymhellach, sy’n gynnydd sylweddol o’r £2,000 o wobr a oedd yn cael ei gynnig y llynedd.

O ran yr wyau digidol wedyn, bydd modd i bobol ddod o hyd iddyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol, posteri a gwefannau, a bydd rhaid iddyn nhw uwchlwytho lluniau ar-lein er mwyn dad-bacio’r wyau.

Mae Cadbury’n dweud bod modd dod o hyd i 1,000 o wyau gwyn a 30,000 o’r rhai arferol ar-lein.

Bydd yr antur i chwilio amdanyn nhw rhwng cael ei chynnal rhwng mis Ionawr 14 ac Ebrill 21, gyda thaliadau i’r enillwyr yn cael eu gwneud erbyn Mai 21.