Bu farw dynes ar ôl syrthio “tua 500 troedfedd” oddi ar Ben Nevis yn yr Alban ar ddydd Calan.

Roedd y fyfyrwraig yn cerdded y mynydd gyda thri pherson arall pan syrthiodd i’w marwolaeth.

Dyma’r ail farwolaeth ar fynydd uchaf gwledydd Prydain yn ystod yr wythnosau diwethaf, ar ôl i Patrick Boothroyd, 21, o Orllewin Swydd Efrog, farw ar Ragfyr 16.

Fe gafodd y tîm achub mynydd lleol eu galw i’r digwyddiad ddoe am 10:30 y bore.

Yn ôl llefarydd ar ran y criw, mae lle i gredu bod y darn o’r mynydd yr oedd y ferch a’r tri pherson arall yn cerdded arno yn llithrig gan rew.

Bu’n rhaid defnyddio’r hofrennydd wedyn i gael ei thri ffrind i ddiogelwch.