Dywedodd y Swyddfa Gartref fod plentyn 10 oed ymlith grŵp o 12 o ffoaduriaid sy’n cael eu holi ar ôl glanio ar draeth yn Swydd Caint.

Credir fod naw dyn, dwy ddynes a’r plentyn wedi cyrraedd Greatstone mewn dingi fore heddiw.

Dywedodd llygad dystion eu bod wedi gweld nifer fawr o heddlu ar hyd yr arfordir tawel.

Meddai Chris Matcham ei fod wedi gweld car yr heddlu yn cael ei yrru’n gyflym heibio iddyn nhw ar hyd y ffordd tuag at New Romney y bore ma.

Dywedodd ei fod wedi gweld car a fan yr heddlu ar lan y môr a hefyd nifer o hofrenyddion yr heddlu.

Dywedodd Heddlu Swydd Caint eu bod wedi cael eu galw am 8.16yb fod criw o fewnfudwyr honedig wedi glanio ger Coast Drive, Greatstone.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod y grŵp yn Iraniaid a’u bod nawr yn cael eu holi.

Daw’r digwyddiad diweddaraf wedi i’r Ysgrifennydd Cartref  Sajid Javid orfod dychwelyd i’r Deyrnas Gyfunol yn gynnar o’i wyliau teuluol yn Ne’r Affrig i ddelio a’r mater.