Mae arweinydd Cristnogol wedi cyhuddo llywodraeth Prydain o ddefnyddio ymdrechion ffoaduriaid i groesi’r Sianel i gyflyru’r farn gyhoeddus a gyrru’r agenda Brexit.

“Gyda’r Senedd mewn anrhefn, a’r broses Brexit ar stop, mae’r ymdrechion gan grwpiau bychain o ffoaduriaid i gyrraedd glannau Prydain wedi cael eu chwythu allan o bob rheswm er mwyn bwydo gofid cyhoeddus a rhagfarn,” meddai’r Parch Jill Hailey-Harries, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn ei Neges Blwyddyn Newydd.

“Mae yna ganfyddiad bod y Deyrnas Unedig yn cael ei bygwth gan argyfwng mewnfudo, eto dim ond ychydig dros 200 o ffoaduriaid sydd wedi ceisio croesi’r Sianel yn ystod y ddau fis diwethaf – llawer ohonynt yn blant. Cymharwch hynny gyda’r 3.5 miliwn o ffoaduriaid o Syria sydd yn Nhwrci.

“Trwy ddychwelyd yn gynnar o’i wyliau i ddelio â sefyllfa digon ddibwys mewn gwirionedd, mae’r Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, wedi bwydo’r ymdeimlad o argyfwng, pryder cyhoeddus a dicter yn erbyn ffoaduriaid.

“Mae’r niferoedd bychain o ffoaduriaid sy’n ceisio croesi’r Sianel yn cynnwys Iraciaid sy’n ffoi o wlad gafodd ei ansefydlogi gan ryfel, a phobl broffesiynol o Iran sy’n ceisio lloches gwleidyddol ar ôl dianc rhag cyfundrefn theocrataidd. Mae Confensiwn Ffoaduriaid 1951 y Cenhedloedd Unedig yn mynnu y dylid trin bobl sy’n ffoi rhag erledigaeth mewn ffordd ddynol a chyfiawn. Mae methu â gwneud hynny yn adlewyrchu’n wael ar y Deyrnas Unedig.”