Gallai lluoedd arfog Prydain gael canolfannau newydd yn y Caribî a’r Dwyrain Pell ar ôl Brexit, yn ôl Gavin Williamson, Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan.

Mae’n rhan o gynllun i sicrhau bod Prydain yn chwarae rôl “byd-eang” ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, meddai.

Dydy lluoedd arfog Prydain ddim wedi bod “i’r dwyrain o Suez” ers y 1960au, ond mae hynny ar fin newid.

“Dyma ein moment fwyaf fel cenedl ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, pan allwn ni ail-gastio ein hunain mewn ffordd wahanol, a gallwn ni chwarae’r rôl ar y llwyfan byd-eang y mae’r byd yn disgwyl i ni ei chwarae,” meddai wrth y Sunday Telegraph.

“Ers cyhyd – yn llythrennol ers degawdau – mae cymaint o’n safbwynt cenedlaethol wedi cael ei liwio gan drafodaeth am yr Undeb Ewropeaidd.

“Dyma ein moment i fod yn chwaraewr byd-eang go iawn unwaith eto – a dw i’n credu bod y lluoedd arfog yn chwarae rhan bwysig yn hynny o beth.”

Pryderon

Mae Gavin Williamson wedi cael ei feirniadu gan Chris Leslie, yr aelod seneddol Llafur, sy’n dweud bod ei sylwadau’n dangos “anwybodaeth”.

“Mae honiadau Gavin Williamson y byddai Brexit yn galluogi’r DU i adeiladau canolfannau yn y Dwyrain Pell neu’r Caribî yn dangos anwybodaeth o strategaeth filwrol, sy’n destun pryder o ran Ysgrifennydd Amddiffyn.”

Yn ôl Layla Moran, aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, mae Brexit yn sicrhau bod Prydain yn “destun sbort”.