Mae Sajid Javid, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi cael ei feirniadu am ei ymateb i “ddigwyddiad sylweddol” yn ymwneud â ffoaduriaid yn ne Lloegr, er iddo ddychwelyd o’i wyliau Nadolig yn gynnar i ymdrin â’r sefyllfa.

Mae’n dweud bod yr ymdrechion gan ffoaduriaid i groesi i Loegr o’r cyfandir yn destun “pryder difrifol”.

Serch hynny, mae’n gwrthod sicrhau bod mwy o longau ar gael i atal cychod rhag cyrraedd y lan.

Mae Diane Abbott, llefarydd materion cartref Llafur, wedi ei gyhuddo o fod yn “araf wrth ymateb”, gan ddweud bod “gwallau” yn ei ddull o weithredu.

Mae Rehman Chishti, yr aelod seneddol Ceidwadol, hefyd wedi ei feirniadu a’i gyhuddo o “ddiffyg arweiniad ar y mater”.

Pryderon

Dywedodd Sajid Javid fis diwethaf ei fod yn “gofidio’n fawr” am y nifer o ffoaduriaid sy’n parhau i geisio cyrraedd gwledydd Prydain.

Daeth dau gwch o Syria ac Iran ddydd Gwener, gyda 12 o ddynion yn cyrraedd y lan.

Cafwyd hyd i 40 o ffoaduriaid yng ngwledydd Prydain ar Ddydd Nadolig, ac mae disgwyl rhagor dros yr wythnosau i ddod.

Aeth Sajid Javid gerbron pwyllgor dethol yn San Steffan, gan ddweud ei fod yn dal i ystyried a ddylid rhoi rhagor o fesurau yn eu lle i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 29), dywedodd ei fod yn parhau i “adolygu” y sefyllfa, gan gyfaddef nad oes “ateb syml” i’r broblem, gan awgrymu y gallai rhoi mwy o longau ar y môr waethygu’r broblem.

“Mae’r sefyllfa yn y Sianel yn destun pryder mawr, gyda phobol yn hap-chwarae gyda’u bywydau mewn ymgais ffol i gyrraedd y DU mewn cychod anniogel ac mewn amodau trychinebus,” meddai.

“Mae’n hanfodol ein bod yn darganfod cydbwysedd rhwng eu hamddiffyn ac amddiffyn ein ffiniau, gan sicrhau nad ydym yn annog rhagor o bobol i wneud y daith beryglus hon.”