Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r actores June Whitfield, fu farw ddydd Gwener (Rhagfyr 28) yn 93 oed.

Roedd ei gyrfa wedi para wyth degawd, ac mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y ffilmiau Carry On a’r cyfresi Terry and June ac Absolutely Fabulous.

Roedd hi hefyd wedi lleisio cymeriad Miss Marple yng nghyfres Radio 4.

Ar ôl cael ei hyfforddi yn RADA, ymddangosodd yn The Glums gan Frank Muir a Denis Norden.

Daeth ei hawr fawr yn Beggar My Neighbour yn 1966, cyn dechrau ar y cyfresi Happy Ever AfterTerry and June.

Yn ystod ei gyrfa, gweithiodd â nifer o actorion comedi blaenllaw fel Frankie Howerd, Benny Hill a Tony Hancock.

Cafodd ei gyrfa ail wynt yn y 1990au wrth iddi ymddangos yn Absolutely Fabulous gyda Joanna Lumley a Jennifer Saunders, yn ogystal â Last of the Summer Wine a The Green Green Grass.

Aeth yn ei blaen i ymddangos yn yr operâu sebon Coronation Street ac Eastenders.

Derbyniodd yr OBE yn 1985, y CBE yn 1998 a daeth yn Fonesig y llynedd.

Mae hi’n gadael merch, yr actores Suzy Aitchison.

“Hwyl fawr mam-gu,” meddai Julia Sawalha, ei hwyres yn y gyfres Absolutely Fabulous, gan ychwanegu ei bod hi wedi dysgu’r grefft o actio iddi “gydag urddas”.