Cafodd seren Strictly Come Dancing AJ Pritchard anafiadau i’w wyneb, breichiau, corff a choesau ar ôl i rywrai ymosod arno fo a’i frawd Curtis ar noson allan, yn ôl llefarydd ar ran y teulu.

Bydd yn rhaid i Curtis, 22, sy’n ddawnsiwr proffesiynol ar Dancing With The Stars yn Iwerddon, gael triniaeth brys i’w benglin yn dilyn yr ynosodiad ar Ragfyr 27 yn Nantwich, Swydd Gaer.

Dioddefodd Curtis hefyd o anafiadau i’w lygad a’i wyneb.

Mae Heddlu Swydd Gaer yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Roedd AJ, 24, yn bartnar dawnsio gyda’r paralympydd Lauren Steadman yng nghyfres ddiweddara Strictly.

Mae nifer fawr o sêr y byd teledu wedi anfon negeseuon o gefnogaeth i’r ddau frawd.