Mae Chris Evans wedi diolch i’w gefnogwyr a’i wraig yn ystod ei sioe frecwast olaf ar BBC Radio 2 bore ma (Dydd Llun, 24 Rhagfyr).

Mae’r darlledwr wedi bod gyda’r orsaf radio ers 2005 ac wedi bod yn cyflwyno’r sioe frecwast ar Radio 2 ers mis Ionawr 2010 gan olynu Syr Terry Wogan.

Fe fydd Chris Evans yn dychwelyd i Virgin bron i 20 mlynedd ers iddo adael. Zoe Ball fydd yn ei olynu yn y Flwyddyn Newydd.

Fe ddiolchodd Chris Evans, 52, i’w deulu a’i wraig Natasha Shishmanian “am roi digon o sicrwydd i fi deimlo’n ddigon hyderus i ddechrau ar gyfnod o ychydig o ansicrwydd eto.”

Fe fydd ei sioe frecwast ar Virgin Radio yn dechrau ar 21 Ionawr.